Gororau Gwylltach

A view of the Clun Valley bordering Shropshire, Montgomeryshire, Radnorshire and Herefordshire

Gororau Gwylltach

Wilder Marches Logo Banner

Un rhaglen. Dwy wlad. Tri dalgylch afon. Pedair Ymddiriedolaeth Natur yn cydweithio er budd natur, mewn partneriaeth â rheolwyr tir.

Mae Ymddiriedolaethau Natur Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed, Swydd Henffordd a Swydd Amwythig wedi llunio Partneriaeth ‘Gororau Gwylltach’.

Mae’r bartneriaeth arloesol hon, sy’n croesi ffiniau siroedd a gwledydd, wedi’i sefydlu i ddiogelu ac adfer tirwedd unigryw a bioamrywiol y Gororau Gwylltach; Yn ymestyn dros ryw 100,000 hectar i’r de o Bishop’s Castle ac i’r gorllewin o dref farchnad Llwydlo yn Swydd Amwythig, i’r gogledd o Whitney-on-Wye yn Swydd Henffordd ac i’r dwyrain o Lanbister, Powys. Ein gweledigaeth yw byd naturiol sy’n ffynnu, lle bo bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol yn chwarae rhan werthfawr mewn mynd i’r afael â’r argyfyngau o ran yr hinsawdd ac ecoleg, a lle bo pawb wedi’u hysbrydoli i chwarae rhan mewn adfer natur.

Rydyn ni yn y cyfnod datblygu ar hyn o bryd, diolch i gefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Elusennol 1989 John Swire. Wrth i’r gwaith fynd rhagddo, rydyn ni’n gobeithio gweld:

  • Ardaloedd bywyd gwyllt craidd yn cael eu hehangu
  • Cynefinoedd yn cael eu hadfer a’u creu fel rhan o’r dirwedd amaethyddol: coetiroedd cymysg, coed pori, ffridd, gwrychoedd, ymylon caeau
  • Mawndiroedd yn cael eu diogelu a’u hadfer
  • Sianeli afonydd, gorlifdiroedd a gwlyptiroedd yn cael eu hadfer
  • Mwy o ffermio atgynhyrchiol; pori er cadwraeth gyda bridiau brodorol 
  • Cynnydd mewn cynhyrchu bwyd cynaliadwy
  • Mwy o dwristiaeth a ffrydiau incwm eraill heblaw am ffermio

Rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen cyn bo hir trwy ein tudalennau newyddion a’n blog.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn, cysylltwch â Jenny Jackson-Tate, Rheolwr Rhaglen Gororau Gwylltach: jennyjt@wildermarches.org.uk  |  07930 952198.